skip to Main Content

Cost

Gellir prynu copi digidol o Fframwaith Monitro Safonau XLence am £25 + TAW.

Copi Cost
1af £25
o’r 2il gopi ymlaen £12.50 fesul copi

Anfonir y fframwaith fel dau lyfryn – un ar gyfer addysgu ac un arall ar gyfer arweinyddiaeth.

I archebu copi, cysylltwch â’n tîm cymorth.

Llyfryn dwy ran yw Fframwaith Monitro Safonau XLence (SMF) a ysgrifennwyd i gynorthwyo ysgolion i gynnal gwerthusiad effeithiol a chyson o ansawdd yr addysgu a’r dysgu, ac arweinyddiaeth yn eu hysgol. Gellir ei ddefnyddio mewn arsylwadau gwersi, teithiau cerdded dysgu, craffu ar waith, ac ati, ac mae wedi’i ysgrifennu i alinio â’r Safonau Proffesiynol newydd, cwrdd â gofynion y cwricwlwm newydd a chyflawni’r Pedwar Pwrpas.  Cafodd ei gynllunio i gefnogi datblygiad athrawon ac arweinwyr ar draws pob agwedd ar eu harfer, ac ar bob cam yn eu gyrfa.

Mae gwreiddiau Fframwaith Monitro Safonau XLence yn ein Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysgu, a, fel y Fframwaith hwnnw mae wedi cael ei ddatblygu gydag athrawon a chynghorwyr sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn feunyddiol. Cafodd y Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysgu ei dreialu a’i arfer yn dda a gwelwyd ei fod yn effeithiol. Cafodd ei ddefnyddio mewn dewis o ffyrdd mewn bron i 50% o ysgolion yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Pam Ydyn Ni wedi ei Greu?

Er mwyn helpu ysgolion i weithredu dull o fynd i’r afael â’r Safonau Proffesiynol sy’n ddatblygiadol, yn annog adfyfyrio unigol ac ar y cyd ac yn cefnogi meddwl arloesol, ac ar yr un pryd yn cadw ffocws ar wella arfer a’i effaith ar ddysgu, mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Fframwaith Monitro Safonau XLence yn ehangu ar y Safonau Proffesiynol a’i nod yw:

  • pontio’r bwlch rhwng cerrig milltir y cyfnod ymsefydlu ac arfer effeithiol iawn;
  • darparu promtiau i feddwl amdanynt a’u trafod mewn unrhyw ddeialog proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arfer;
  • sicrhau dull gweithredu a llwybr clir a chyson ar gyfer dysgu proffesiynol.

Rhennir y Fframwaith yn adrannau ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Mae’r adran am arweinyddiaeth yn anelu at helpu ysgolion i adnabod ac adeiladu proses newydd sy’n sicrhau bod arweinwyr yn agored i’r un cyfleoedd dysgu proffesiynol a heriau ag athrawon

Sut y Cafodd ei Ddatblygu?

Trwy gyfuniad o ymgynghoriad, mewnbwn a phrofi llym yn yr ysgol. Mae penaethiaid ac uwch-staff o ysgolion a ddefnyddiodd y Fframwaith Rhagoriaeth mewn Addysgu blaenorol, wedi rhoi mewnbwn, a’i brofi yn eu hysgolion, gyda’r staff a oedd yn cymryd rhan fel “y gymuned sy’n dysgu” yn bwydo eu barn yn ôl.

Sut y Mae wedi ei Strwythuro

Mae’r Fframwaith wedi ei strwythuro o amgylch meysydd y Safonau ac yn cofleidio pob elfen sydd ynddynt. Mae’n cynnwys addysgeg ac arferion proffesiynol, ac yn rhoi ffocws ar wella’r ysgol yn ehangach.

Mae’r deunydd enghreifftiol ychwanegol yn cynnwys profformâu ar gyfer troeon dysgu, craffu ar waith, gwrando ar ddysgwyr a mwy.

Defnyddio’r Fframwaith

Gall y canlynol ei ddefnyddio:

  • unrhyw un mewn rôl datblygu staff i gefnogi eu staff ac i adnabod anghenion datblygiadol clir;
  • unrhyw un ag arnynt angen llwybrau dysgu proffesiynol clir neu sy’n ystyried ‘beth yw’r cam nesaf’ yn eu harfer;
  • yr ysgol neu’r lleoliad i sefydlu disgwyliadau clir ynghylch arfer effeithiol, adnabod enghreifftiau neu ffurfio’r cefndir i’r broses rheoli perfformiad;
  • yr ysgol neu’r lleoliad i adnabod meysydd sy’n gryf ynghyd â’r meysydd hynny lle mae angen gweld datblygiad.
Back To Top

We use cookies to improve your online experience. For information on the cookies we use and for details on how we process your personal information, please see our privacy policy. To make full use of our website you must accept the cookies by clicking the button below. You can reset your cookie preference at any time by using the 'Reset Cookie Consent' button in our website footer.