skip to Main Content

Modiwl i fonitro addysgu a dysgu, gyda chyfleuster dadansoddi i oleuo gwelliannau a darparu tystiolaeth ar gyfer llywodraethu da.

Mae’r Modiwl Datblygu Addysgu a Dysgu yn darparu’r offerynnau er mwyn i uwch-arweinwyr ddadansoddi’r addysgu a’r dysgu ac adnabod meysydd y mae angen eu gwella fesul athro neu bwnc neu fel ysgol gyfan.

Gall uwch-arweinwyr ddefnyddio’r Gwersi a Ddysgwyd er mwyn dangos ansawdd yr addysgu a’r dysgu i lywodraethwyr, ymddiriedolwyr ac eraill e.e. cynghorwyr neu arolygwyr, a hynny mewn ffordd hwylus. Mae hefyd yn darparu tystiolaeth sy’n ddelfrydol ar gyfer eich prosesau hunanadolygu.

Mae’r modiwl yn un hyblyg ac yn gallu cynnwys dewis o ffurflenni monitro ar gyfer addysgu a dysgu, gan gynnwys arsylwadau gwersi, troeon dysgu, craffu ar lyfrau a llawer iawn mwy. You can use our preloaded forms, which form part of our Curriculum Development Toolkit, or alternatively use your own school frameworks and forms.

Gellir teilwra ffurflenni’n helaeth, ac mae yna opsiynau i actifadu neu ddiffodd beirniadaethau, creu setiau beirniadaeth newydd ar gyfer ffurflenni penodol ac ychwanegu meysydd er mwyn cofnodi pwyntiau datblygu a chryfderau lle bo hynny’n berthnasol. Mae i fyny i chi pa mor gymhleth neu syml y mae eich ffurflenni.

Gyda’r sgriniau dadansoddi hawdd eu defnyddio, gellir cael trosolwg cyflym o lefel yr addysgu a’r dysgu, fesul unigolyn neu adran neu fel ysgol gyfan. Mae’r crynodebau o’r pwyntiau datblygu a’r cryfderau yn eich galluogi i weld os oes maes penodol sy’n gryfder neu’n wendid yn eich ysgol.

Gall athrawon gael eu manylion mewngofnodi eu hunain sy’n eu galluogi i weld ffurflenni a gwblhawyd amdanynt a gellir rhoi mynediad i arweinwyr canol at ffurflenni a dadansoddiadau ar gyfer eu pwnc/maes neu grŵp blwyddyn. Gellir cael mynediad at gofnodion pwynt datblygiad ar bob lefel, er mwyn i unigolion allu gweld yr adborth a roddwyd iddynt a chofnodi camau gweithredu yn eu herbyn i ddangos sut y maent wedi ymateb.

Prif Fuddion

  • Yn helpu timau arweinyddiaeth i gofnodi tystiolaeth fonitro mewn modd strwythuredig a chyson o amrywiaeth o ffynonellau
  • Mae dangosfyrddau ar lefel unigolyn, pwnc ac ysgol yn darparu dadansoddiad graffigol o’r dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  • Mae’n hawdd nodi a gweithredu ar feysydd cryfder a’r rhai sydd angen eu datblygu.
  • Gellir gwerthuso effaith gweithgarwch datblygu ysgol dros amser.
  • Adrodd yn brydlon ac yn amserol ar gyfer uwch arweinwyr, llywodraethwyr ac eraill.

Sgrinluniau

Cliciwch ar y dotiau gwyrdd i ddewis pa sgrinlun i’w weld.

Slide Dashboard screens provide a detailed, real-time analysis of teaching and learning in your school and can be viewed at individual, department and whole school levels. They can be exported to Word at the click of a button, making for easy printing and sharing. Slide Use our comprehensive framework to ensure a common language and approach throughout your school. All of our frameworks can be tailored to meet your school's requirements or alternatively, you can use your own frameworks. Slide Design your own forms based on what you already use in school - XLence adapts to your processes and makes leadership management exactly what it should be - manageable! Slide Using categories, XLence is able to give you a visual representation of strengths and areas for development across the school and by department, helping to identify where CPD resources should be focused. Slide 'Notepads' can be used for providing general feedback when conducting activities like learning walks. Quick fire strengths, development points or any other type of feedback to staff, whole roles (e.g. all teachers), subjects or year groups as you're moving around the school.

Yng Ngeiriau Ein Cwsmeriaid

“Roedd y system yn ddefnyddiol iawn. Roedd trosolwg o’r holl arsylwadau a wnaed yn yr ysgol ar flaen fy mysedd, roeddwn yn gallu darparu data ar gyfnodau allweddol a phynciau gwahanol fel rhan o sylfaen dystiolaeth yr ysgol.”

“Roeddwn yn gallu dangos ble y mae ein cryfderau a’n gwendidau, ynghyd â chanran yr athrawon sy’n gweithio ar lefel ‘Dda’ neu’Ragorol’. Am ychydig gannoedd o bunnau, roeddwn i’n gallu atal yr ysgol rhag cael gradd ‘Digonol’ ar sail yr hyn yr oedd arolygwr wedi ei weld mewn deuddydd.”

Back To Top

We use cookies to improve your online experience. For information on the cookies we use and for details on how we process your personal information, please see our privacy policy. To make full use of our website you must accept the cookies by clicking the button below. You can reset your cookie preference at any time by using the 'Reset Cookie Consent' button in our website footer.