Cadwch yr holl ddogfennau ar gyfer eich cylch gwella’r ysgol mewn un lle, ac olrhain eich cynnydd yn erbyn blaenoriaethau eich ysgol neu’ch adran yn hwylus. Templedi hyblyg, hawdd eu defnyddio sy’n sicrhau bod y gwaith o adeiladu eich Adolygiad Hunanwerthuso a’ch Cynllun Datblygu’r Ysgol yn hawdd.
Mae ein Modiwl Datblygu’r Ysgol yn darparu ar gyfer y cylch gwella’r ysgol cyflawn, o gasglu a dadansoddi tystiolaeth am bob agwedd ar fywyd yr ysgol, i gynllunio a gweithredu camau gweithredu i wella’r deilliannau i ddisgyblion a myfyrwyr. Mae’n cynnig y ffocws a’r rheolaeth y mae ar uwch-arweinwyr eu hangen.
Ffocws y Modiwl yw’r teclyn grymus sy’n adeiladu ffurflenni arbennig y gellir eu defnyddio i greu’r dogfennau ar gyfer eich Adolygiad Hunanwerthuso a’ch Cynllun Datblygu’r Ysgol ar-lein a’u rhannu gyda’r aelodau perthnasol o staff.
Gellir creu’r ddau fath o ddogfen ar sail categorïau Estyn, categorïau penodol eich ysgol chi, neu gyfuniad o’r ddau. Unwaith y byddwch wedi gwerthuso ble mae eich ysgol, gan ddefnyddio’r adrannau beirniadaeth ar eich Adolygiad Hunanwerthuso, gallwch dynnu’r wybodaeth honno i mewn i’ch Cynllun Datblygu’r Ysgol, ac oddi yno rhestru blaenoriaethau datblygu eich ysgol, aseinio camau gweithredu i aelodau penodol o staff, gwneud nodiadau am yr adnoddau angenrheidiol a mwy.
Gall penaethiaid adran greu eu ffurflenni Adolygiad Hunanwerthuso a Chynllun Datblygu’r Ysgol eu hunain ar gyfer eu grŵp blwyddyn neu bwnc, a gallant gysylltu blaenoriaethau eu hadran yn ôl at brif flaenoriaethau datblygu’r ysgol. Gall unrhyw amcanion rheoli perfformiad neu ddigwyddiadau DPP a ychwanegir at fodiwlau eraill ar y system gael eu cysylltu yn ôl at eich blaenoriaethau chi hefyd, gan roi darlun clir i’r uwch-dîm o’r hyn sy’n cael ei wneud ar draws yr ysgol er mwyn rhoi sylw i gynllun datblygu’r ysgol.
Gellir cyhoeddi dogfennau gweithiol Adolygiad Hunanwerthuso a Chynllun Datblygu’r Ysgol ar unrhyw adeg, ac felly gall yr ysgol gadw ‘llwybr papur’ digidol o’r cynnydd, a chyfeirio yn ôl ato ar unrhyw adeg. Mae’r caniatâd yr ydych chi yn ei roi i bob aelod o staff penodol yn pennu eu gallu i gael mynediad at ddogfennau gweithiol, neu ddogfennau a gyhoeddwyd yn unig.
Gellir ‘argraffu’ pob dogfen yn syth i Word, fel eu bod yn hawdd eu rhannu gyda llywodraethwyr, arolygwyr neu aelodau eraill o staff yr ysgol.
Prif Fuddion
- Proses gwella’r ysgol sydd wedi ei harwain a’i rheoli’n dda
- Storiwch eich dogfennau Adolygiad Hunanwerthuso a Chynllun Datblygu’r Ysgol ar-lein fel eu bod yn hygyrch i bawb ag arnynt eu hangen
- Adolygiadau Hunanwerthuso a Chynlluniau Datblygu’r Ysgol wedi eu seilio ar bwnc a blwyddyn/ cyfnod a’u cysylltu yn ôl at gynlluniau’r ysgol
- Gellir teilwra fformat y ffurflenni, y beirniadaethau a’r adrannau yn llwyr
- Gellir cyhoeddi’r dogfennau ar unrhyw adeg er mwyn sicrhau llwybr papur i ddangos y cynnydd
- Argraffwch eich dogfennau yn syth i Word er mwyn eu rhannu’n hawdd
Sgrinluniau
Cliciwch ar y dotiau gwyrdd i ddewis pa sgrinlun i’w weld.