Modiwl i fonitro addysgu a dysgu, gyda chyfleuster dadansoddi i oleuo gwelliannau a darparu tystiolaeth ar gyfer llywodraethu da. Defnyddiwch ochr yn ochr â Fframwaith Monitro Safonau XLence.

Mae’r Modiwl Datblygu Addysgu a Dysgu yn darparu’r offerynnau er mwyn i uwch-arweinwyr ddadansoddi’r addysgu a’r dysgu ac adnabod meysydd y mae angen eu gwella fesul athro neu bwnc neu fel ysgol gyfan.
Gall uwch-arweinwyr ddefnyddio’r Gwersi a Ddysgwyd er mwyn dangos ansawdd yr addysgu a’r dysgu i lywodraethwyr, ymddiriedolwyr ac eraill e.e. cynghorwyr neu arolygwyr, a hynny mewn ffordd hwylus. Mae hefyd yn darparu tystiolaeth sy’n ddelfrydol ar gyfer eich prosesau hunanadolygu.
Mae’r modiwl yn un hyblyg ac yn gallu cynnwys dewis o ffurflenni monitro ar gyfer addysgu a dysgu, gan gynnwys arsylwadau gwersi, troeon dysgu, craffu ar lyfrau a llawer iawn mwy. Gallwch ddefnyddio ein ffurflenni parod, sy’n defnyddio Fframwaith Monitro Safonau XLence fel sylfaen, neu ddefnyddio fframweithiau a ffurflenni eich ysgol chi.
Gellir teilwra ffurflenni’n helaeth, ac mae yna opsiynau i actifadu neu ddiffodd beirniadaethau, creu setiau beirniadaeth newydd ar gyfer ffurflenni penodol ac ychwanegu meysydd er mwyn cofnodi pwyntiau datblygu a chryfderau lle bo hynny’n berthnasol. Mae i fyny i chi pa mor gymhleth neu syml y mae eich ffurflenni.
Gyda’r sgriniau dadansoddi hawdd eu defnyddio, gellir cael trosolwg cyflym o lefel yr addysgu a’r dysgu, fesul unigolyn neu adran neu fel ysgol gyfan. Mae’r crynodebau o’r pwyntiau datblygu a’r cryfderau yn eich galluogi i weld os oes maes penodol sy’n gryfder neu’n wendid yn eich ysgol.
Gall athrawon gael eu manylion mewngofnodi eu hunain sy’n eu galluogi i weld ffurflenni a gwblhawyd amdanynt a gellir rhoi mynediad i arweinwyr canol at ffurflenni a dadansoddiadau ar gyfer eu pwnc/maes neu grŵp blwyddyn. Gellir cael mynediad at gofnodion pwynt datblygiad ar bob lefel, er mwyn i unigolion allu gweld yr adborth a roddwyd iddynt a chofnodi camau gweithredu yn eu herbyn i ddangos sut y maent wedi ymateb.
Prif Fuddion
- Yn helpu timau arweinyddiaeth i gofnodi tystiolaeth fonitro mewn modd strwythuredig a chyson o amrywiaeth o ffynonellau
- Mae dangosfyrddau ar lefel unigolyn, pwnc ac ysgol yn darparu dadansoddiad graffigol o’r dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau.
- Mae’n hawdd nodi a gweithredu ar feysydd cryfder a’r rhai sydd angen eu datblygu.
- Gellir gwerthuso effaith gweithgarwch datblygu ysgol dros amser.
- Adrodd yn brydlon ac yn amserol ar gyfer uwch arweinwyr, llywodraethwyr ac eraill.
Newydd ar gyfer 2020 – Dangosfyrddau y gellir eu Hargraffu
Bellach gellir allforio graffiau a thablau cryno ar sgriniau’r dangosfwrdd i Word trwy glicio ar fotwm i’w hargraffu a’u rhannu’n hawdd. Allforiwch eich data ar lefel ysgol, pwnc/adran neu unigolyn a dewiswch a ddylid argraffu’r sgrin gyfan neu’r adrannau sydd eu hangen arnoch yn unig.
Yng Ngeiriau Ein Cwsmeriaid
“Roedd y system yn ddefnyddiol iawn. Roedd trosolwg o’r holl arsylwadau a wnaed yn yr ysgol ar flaen fy mysedd, roeddwn yn gallu darparu data ar gyfnodau allweddol a phynciau gwahanol fel rhan o sylfaen dystiolaeth yr ysgol.”
“Roeddwn yn gallu dangos ble y mae ein cryfderau a’n gwendidau, ynghyd â chanran yr athrawon sy’n gweithio ar lefel ‘Dda’ neu’Ragorol’. Am ychydig gannoedd o bunnau, roeddwn i’n gallu atal yr ysgol rhag cael gradd ‘Digonol’ ar sail yr hyn yr oedd arolygwr wedi ei weld mewn deuddydd.”