Sut y Gall
Helpu Ysgolion i Weithredu’r Safonau Proffesiynol
Cefndir: Rhaglen Arweinyddiaeth XLence
Mae’r Fframwaith Adolygu Safonau XLence a’r Offeryn Dysgu Proffesiynol cysylltiedig wedi’u cynllunio i helpu staff i werthuso, cofnodi a datblygu eu harfer yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
O fis Medi 2019 cychwynnodd ein saith ysgol llysgennad raglen blwyddyn o hyd, gan ddefnyddio’r fframwaith a’r system, a ddyluniwyd i wella arweinyddiaeth ac addysgu. Nod y rhaglen yw:
- ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Safonau Proffesiynol;
- gwella sgiliau a chymwyseddau arweinwyr yn erbyn elfennau o fewn y Safonau;
- datblygu a chefnogi dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil o fewn ac ar draws ysgolion;
- cyfrannu at wella ysgolion a datblygiad yr ysgolion fel sefydliadau dysgu.
Mynychodd pob ysgol a wahoddwyd i fod yn llysgenhadon gyfarfod cychwynnol ym mis Mai 2019, gan amlinellu’r Rhaglen Arweinyddiaeth arfaethedig, a dilynwyd hyn gan gyfarfod manwl ym mis Medi gydag ysgolion yn cytuno ar y rhaglen derfynol, gan gynnwys camau gweithredu a llinellau amser penodol.
Ar ôl hyn, cychwynnodd yr ysgolion ar y rhaglen, a oedd yn golygu defnyddio’r fframwaith a’r system ar-lein. Gadawyd yr union fethodoleg ar gyfer gweithredu i’r ysgolion, ac roeddent yn defnyddio gwahanol ddulliau yn ôl y cyd-destun.
Astudiaethau Achos Llysgennad:
Cliciwch enw’r ysgol i ddarllen yr astudiaeth achos.
Colleg Cymunedol Y Dderwen (CCYD)
Ysgol 11-19 yn Nhondu, Pen-y-bont ar Ogwr
Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Ysgol Gymunedol 3-18 sydd newydd ei ffurfio yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf
Glan Usk Primary School (Yn dod yn fuan)
Ysgol Gynradd 3-11 fawr iawn yng Nghasnewydd
Barry Island Primary School (Yn dod yn fuan)
Ysgol Gynradd 3-11 yn y Barri, Bro Morgannwg
Ysgolion Llysgenhadon Eraill:
Ysgol Cwm Brombil
Ysgol 3-16 ym Mhort Talbot
Abersychan School
Ysgol Gyfun 11-16 yn Nhorfaen
Ysgol Gynradd Pencae Primary
Ysgol Gynradd 4-11 yng Nghaerdydd
Mae’r astudiaeth hon yn adrodd ar y camau y mae pedair o’r saith ysgol wedi’u cymryd hyd yn hyn, o fewn y nodau trosfwaol, ac yn nodi effaith y camau hynny ar hyn o bryd. I ddarllen yr astudiaethau achos, cliciwch ar enwau’r ysgolion yn y blwch gwyrdd uchod.
Mae tair ysgol lysgennad arall yn ymgymryd â’r rhaglen, o ddyddiad cychwyn hwyrach. Cyhoeddir astudiaethau achos ar eu taith o ganlyniad ar adeg briodol.
Byddwn yn gwahodd ysgolion i gymryd rhan yng ngharfan nesaf y Rhaglen Arweinyddiaeth o dymor yr hydref. Gweler y wefan o fis Mehefin ymlaen am fanylion. Gall hyn gynnwys ysgolion sengl neu rwydweithiau sy’n bodoli eisoes.