Astudiaethau Achos
Ers mis Medi 2019, mae ein 7 ysgol llysgennad wedi bod yn treialu Fframwaith Adolygu Safonau XLence ac Offeryn Dysgu Proffesiynol. Cliciwch y botwm i ddarganfod sut y gwnaethon nhw weithredu XLence a’r effaith y mae wedi’i chael ar wella ysgolion a datblygu staff hyd yn hyn
Fframwaith Adolygu Safonau + Offeryn Dysgu Proffesiynol

Mae’n haws gweithredu’r Safonau newydd pan fydd gennych yr offer iawn i wneud y gwaith.
Gallwch helpu eich staff i ymestyn eu dysgu proffesiynol, a sicrhau bod eich ysgol yn bodloni galwadau’r cwricwlwm uchelgeisiol newydd, gyda Fframwaith Adolygu Safonau XLence a’r modiwl Adolygu 360.
Mae’r Fframwaith Adolygu at ddefnydd unigolion, adrannau neu hyd yn oed lleoliadau cyfan, er mwyn cynnal hunanadolygiadau arfer ac adolygu arfer cymheiriaid, i lunio gwerthusiad crynodol o’r cynnydd yn erbyn y Safonau ar unrhyw un adeg. Mae wir yn cefnogi Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.
Mae ein Hofferyn Dysgu Proffesiynol (rhan o System Ar-lein XLence) yn gwneud cofnodi adolygiadau yn hawdd. Dangosir y data ar siartiau radar, sy’n ddadansoddiad gweledol rhagorol ac yn ei gwneud yn hawdd i chi gymharu.
Fframwaith Monitro Safonau + Datblygu Addysgu a Dysgu
Gallwch werthuso ansawdd yr addysgu, y dysgu a’r arweinyddiaeth ochr yn ochr â’r Safonau Proffesiynol.
Mae Fframwaith Monitro Safonau XLence at ddefnydd ysgolion, er mwyn goruchwylio datblygiad yr addysgu a’r dysgu yn eu lleoliad, yn rheolaidd ac yn aml, fel rhan o’u prosesau monitro parhaus.
Gellir storio ffurflenni monitro yn ein Modiwl Datblygu Addysgu a Dysgu, sy’n llunio adroddiadau syml, ar unwaith, i ddadansoddi meysydd ar gyfer gwelliant a chryfderau. Mae’r rhain yn ddelfrydol i’w rhannu gyda llywodraethwyr ac unrhyw un allanol.

Cyfres 
Mae cyfres offerynnau XLence ar gyfer gwella ysgolion yn cynnwys tri chynnyrch craidd a gynlluniwyd i helpu staff i ddatblygu yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.
1
Fframwaith Adolygu Safonau XLence
At ddefnydd unigolion ac arfarnwyr/rheolwyr llinell er mwyn hunanadolygu ac adolygu cymheiriaid.
2
Fframwaith Monitro Safonau XLence
At ddefnydd y tîm arwain i fonitro a gwerthuso arfer ar draws yr ysgol.
3
I storio a dadansoddi’r data sy’n cael eu creu yn ganlyniad i’r defnydd o’r fframweithiau.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein system ar-lein i olrhain amcanion arfarnu eich staff, rheoli DPP eich ysgol a storio a rhannu dogfennau datblygu’r ysgol.
Y Fframweithiau


Fframwaith Adolygu Safonau XLence
Cynlluniwyd Fframwaith Adolygu Safonau XLence i helpu athrawon, cymheiriaid ac arweinwyr i arfarnu a gwerthuso arferion addysgu ac arweinyddiaeth yn erbyn holl elfennau’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Mae wedi ei alinio’n uniongyrchol at y pum safon ar gyfer arfer mewn addysgu ac arweinyddiaeth, y mesurir datblygiad athrawon ac arweinwyr yn eu herbyn trwy gydol eu gyrfa.


Fframwaith Monitro Safonau XLence
Er mwyn cefnogi’r broses o gasglu ystod ehangach o esiamplau a thystiolaeth, o ddewis eang o ffynonellau, gallwch ddefnyddio Fframwaith Monitro Safonau XLence (Y Fframwaith Rhagoriaeth Mewn Addysgu ac Arweinyddiaeth gynt) i werthuso cyfres o weithgareddau monitro sydd ar waith ymhob ysgol.
Elfen arbennig o ddefnyddiol o’r fframwaith yw’r arweiniad a’r profformâu ar gyfer adnabod tystiolaeth werthusol wrth arsylwi ar ystafelloedd dosbarth, mewn troeon dysgu ac wrth graffu ar waith a chynllunio.
Cefnogir gan system ar-lein sythweledol…

Gellir storio arsylwadau ac adolygiadau a gwblheir trwy ddefnyddio’r fframweithiau, a’u dadansoddi, gan ddefnyddio ein system ar-lein, XLence. Mae’r system yn cynnwys pum modiwl dewisol, ac yn storio cofnodion llawn sy’n cynnwys popeth yr ydych yn ei gofnodi, o ganlyniad i waith monitro addysgu a dysgu, hunanadolygiadau ac adolygiadau cymheiriaid, ynghyd ag amcanion arfarniadau staff, digwyddiadau DPP, Cynllun Datblygu’r Ysgol a’ch Adolygiad Hunanwerthusiad.
…ac mae yna lu o fuddion
Yn gwella gallu arweinwyr i arwain a rheoli eu hysgol
Monitro gweithgarwch ysgol sy’n strwythuredig a chyson
Mwy o fewnwelediad i gryfderau ac anghenion datblygu’r ysgol
Dadansoddiad treiddgar o dystiolaeth i gefnogi trafodaethau a rhesymu dros benderfyniadau
Olrhain a hysbysu arweinwyr am weithgaredd datblygu unigolion ac ysgolion a’i effaith
Gweithio ar Amrywiol Ddyfeisiau
Gallwch ddefnyddio XLence ar unrhyw ddyfais sydd wedi ei chysylltu at y rhyngrwyd sydd â phorwr ar gyfer y we. Gallwch gwblhau troeon dysgu ar eich llechen neu wirio’ch amcanion rheoli perfformiad ar eich ffôn symudol.
Cymorth Heb Ei Ail
Caiff ein holl gwsmeriaid gymorth digyfyng dros y ffôn a thrwy e-bost, ynghyd â sesiynau hyfforddiant ar-lein sy’n rhad ac am ddim, yn ôl yr angen. Gellir darparu hyfforddiant yn yr ysgol hefyd, ar gais.
Esblygu o Hyd
Rydym yn rhoi ystyriaeth i syniadau ac awgrymiadau ein cwsmeriaid yn rheolaidd ac yn ceisio eu hintegreiddio i’r system. Mae unrhyw ddiweddariadau i fodiwlau yr ydych yn berchen arnynt wedi eu cynnwys yn eich ffi trwydded flynyddol.
Rhan o glwstwr neu grŵp o ysgolion? Rydym yn cynnig gostyngiadau i ysgolion sy’n prynu gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod mwy.